Croeso
Cefndir
Cynnyrch
Deunydd Crai
Gwasanaethau
Amcangyfrifydd
Tystebion
Cysylltwch
Cysylltau Defnyddiol
Saesneg

 

  
Mae Cerrig Cyf. yn llunio cynnyrch o safon uchel mewn gwenithfaen, llechen a marmor. ‘Rydym yn credu’n gryf mewn cynnig gwasanaeth effeithiol a phersonol i bob cwsmer.
Mae gan gyfarwyddwyr y cwmni gysylltiadau cryf gyda’r diwydiant trin cerrig yn yr ardal.

 
‘Roedd Glyn Williams yn Reolwr Gyfarwyddwr un o gwmniau llechi Ffestiniog, oedd yn cynhyrchu llechi toi, nodweddion pensaerniol, gweithfyrddau a chofebion. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio cerrig pensaerniol., ac mae’n Gymrawd o’r Athrofa Mwyngloddiau a Chwareli. Daw o deulu fu’n gweithio’n y diwydiant llechi ers pedair cenhedlaeth.

  

 
Mab Glyn yw Ian Williams, ein Cyfarwyddwr Cynhyrchu. Mae ganddo yntau brofiad helaeth o gynhyrchu a gofalu am gwsmeriaid yn y diwydiant llechi. Mae ganddo gymhwysterau ym maes CAD/CAM (dylunio cyfrifiadurol), ac ef sy’n gofalu fod y gwaith â wneir yma yn cyrraedd y safon uchaf.
   

 
    Mae gan Mike Tanner (sy’n swil o gael tynnu ei lun!) 25 mlynedd o brofiad o waith saer maen, yn cynnwys llythrennu a llyfnhau cerrig o bob math. Mae’n fforman yn Cerrig, yn goruchwylio’r gwaith cynhyrchu. Mae ganddo brofiad helaeth hefyd ym maes gosod gweithfyrddau.
  
 

Cyn ymuno i sefydlu Cerrig Cyf. yn y flwyddyn 2000, ‘roedd ein cyfarwyddwyr wedi cyd-weithio ar nifer o brosiectau pwysig. Maent yn ffyddiog o allu cynnig gwasanaeth proffesiynol i’w holl gwsmeriaid.
Mae Cerrig Cyf yn cyfuno deunydd a chrefftwaith draddodiadol gyda’r dechnoleg ddiweddaraf.

       
E-bostiwchE-bostiwch E-bostiwch ffrindE-bostiwch ffrind

Nodi’r DudalenNodi’r Dudalen

Argraffu TudalenArgraffu Tudalen

 
© Cerrig Cyf. Stad Ddiwydiannol Glandon, Pwllheli Gwynedd LL53 5YT
[e] info@cerrig-granite.com    [t] +44(0)1758 612645    [f] +44(0)1758 612410